b'02Moel SiabodMynydd agosaf Eryri at Fetws-y-Coed, 4 milltir ir gogledd or pentref; or copa unigryw sip pyramid mae golygfeydd godidog ar draws Eryri. Mae dau brif lwybr yn arwain i gopa Moel Siabod, ac maer ddau yn dechrau o feysydd parcio caffis ar yr A5 ir gogledd o Fetws-y-Coed. Maer llwybr mwyaf anodd, syn dechrau fel dringfa gymharol hawdd, yn dechrau gyferbynmaes parcio caffi Bryn Glo rhwng Betws-y-Coed a Chapel Curig. Maer llwybr llydan yn dringon raddol ac mae yma olygfeydd gwych o ddyffryn Llugwy islaw. Maen troelli o amgylch llynnoedd bach a llyn chwarel dramatig wedii amgylchynugwanasau serth. Ar l mynd heibio llyn mwyLlyn y Foel, maen rhaid sgrialu i gyrraedd y copa at y piler triongli ar gysgodfan gerrig gerllaw. Maer ddisgynfa i Gapel Curig ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol yn llawer haws, does dim llawer o arwyddbyst ond dawr llwybr yn amlwg yn fuan. Maer llwybr haws yn dechrau gyferbynmaes parcio caffi Siabod ar yr A5 yng Nghapel Curig. Does dim arwyddbyst ar y llwybr hwn felly mae gwybodaeth am ddarllen mapiau neu gyfeiriadau llwybrau yn ddefnyddiol. Does dim angen sgrialu ar y llwybr hwn. Amser (oriau): Pellter: 5.5 milltir34 awr Anhawster: caled /Cyf. Map:SH 709 548anodd (yn dibynnu Lledred:53.074780ar y llwybr) Hydred: -3.92852389'