b' Mae Llyn Tegid, llynnaturiol mwyaf y parc, yn gartref i rhwogaeth arall syn unigryw i Eryri, sef y Gwyniad, is-rhywogaeth pysgodyn gwyn Ewropeaidd a gafodd ei ddal yn y llyn ar ddiwedd yr Oes I diweddaf, 10,000 o flynyddoedd yn l.Mae hanes a diwylliantym mhob man yn Eryri ar Gymraeg yw iaith gyntaf 65 y cant or boblogaeth. Rydych yn sir o glywed a gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio pan fyddwch yn ymweld r ardal. Mae tirwedd Eryri yn adlewyrchu hanes yr ardal, o siambrau claddu Oes y Cerrig, ceiri Rhufeinig, eglwysi, cestyll, chwareli llechi a gweithfeydd diwydiannol eraill. Cafodd tirwedd Eryri ei siapio yn ystod yr Oes I. Cerfiwyd y dyffrynnoedd mawr sip-U, yn Llanberis a Nant Gwynant yn y gogledd a Tal-y-llyn yn y de, gan rewlifoedd a oedd ar eu hanterth 18,000 mlynedd yn l yn Eryri. 31'