b'01Rhaeadr Ewynnol Maer llecyn prydferth hwn ai raeadr dramatig 2 filltir ir gogledd o bentref Betws-y-Coed ac yn hawdd ei gyrraedd. Maer daith yn hawdd ac yn gymharol wastad. Maer llwybr yn amrywiol ac yn cynnig golygfeydd hardd ar hyd dyffryn Llugwy a thrwy goedwig Gwydir. Gallwch gwblhau taith gylchol hefydgweler isod. Maer daith yn dechrau ger Pont y Pair, lle maer afon yn rhuthro dros y cerrig mawr yng nghanol pentref Betws-y-Coed. Trowch ir chwith ym mhen drawr bont a dilynwch y llwybr ger yr afon. Maen arwain at lwybr pren ac yna ar hyd y dyffryn at Bont y Mwynwyr. Ar ben y grisiau ar y dde mae llwybr syth yn arwain drwyr goedwig cyn troi ir chwith am tua 50 metr ir briffordd. Maer mynediad ir Rhaeadr Ewynnol ymhen tuamilltir. Daw grym a natur wyllt y rhaeadr ir golwg ac maer profiad yn fwy dramatig wrth fynd i lawr at y bonc yn y gwaelod. I gwblhau taith gylchol ewch ymlaen ammilltir i gyrraedd ystafelloedd te T Hylllle tlws iawn syn werth y daith ychwanegol. Mae grisiau gerllawr maes parcio bach yn arwain at yr afon lle mae llwybr yn arwain yn l i Fetws-y-Coed (mae sawl llwybr ar y ffordd ond mae pob un yn mynd ir un cyfeiriad). Ar y ffordd gallwch fwynhau golygfa or Rhaeadr Ewynnol or ochr arall. Amser (oriau): Pellter: 2 filltir2 awr ir Rhaeadr(4.5 milltir taith Ewynnol gylchol) Cyf. Map:SH 765 5783.54 awr taithLledred: 53.103058gylchol Anhawster: hawdd Hydred:-3.84613498'