b'03Llyn ElsiAr garreg drws Betws-y-Coed, mae Llyn Elsi yn un o nifer o lynnoedd hardd yng Nghoedwig Gwydir syn amgylchynur pentref. O lannaur llyn gallwch fwynhau golygfeydd panoramig o gopaon Eryri. Mae sawl llwybr yn arwain at y llyn. Maer llwybr mwyaf uniongyrchol yn dechrau y tu l i Eglwys y Santes Fair yng nghanol y pentref. Llwybr eithaf anodd a serth yw hwn am y 500 metr cyntaf. Mae arwyddbyst ar hyd y daith a dylid anwybyddu llwybrau llai nes i chi gyrraedd cyffordd-T amlwg lle nad oes ffordd ymlaen. Trowch ir chwith ac yna ir dde ar l 400 metr ger y meini hirion i gyrraedd y llyn ar gofeb lle mae golygfa fendigedig ar draws y llyn ac i gyfeiriad y mynyddoedd. Mae llwybr amlwg yn arwain o amgylch y llyn. Gallwch ddilyn llwybr mwy golygfaol ac amrywiol ond does dim arwyddbyst ac mae angen cyfeiriadau manwl. Maer llwybr hwn yn dechrau ger Pont y Pair yng nghanol y pentref ac yn dilyn afon Llugwy at Bont y Mwynwyr. Ar l croesi priffordd yr A5 dilynwch y llwybrau dros y camfeydd ar caeau gan fynd heibio hen weithfeydd chwarelyddol cyn cyrraedd y gofeb syn edrych dros y llyn.Amser (oriau): Golygfaol: 3.5 milltir 2 awr (3.5 awr taith(5 milltir taith gylchol)gylchol) Cyf. Map:SH 792 568Pellter: Anhawster: anoddLledred:53.094692Uniongyrchol : 2 filltirmewn mannau (ynHydred:-3.805451610 (4.5 milltir taith gylchol) dibynnu ar y llwybr)'