b'Croeso i . awyr iach, mynyddoedd, llynnoedd, afonydd, anturiaethau awyr agored, natur, trecio, beicio, dringoneu ymlacio yn harddwch mynyddoedd a choedwigoedd Parc Cenedlaethol Eryri. Croeso i Betws-y-Coedy Porth i Eryri a Phrifddinas anturiaethau awyr agored Prydain. Yn swatio yng nghanol Coedwig Gwydir a man cyfarfod pedwar dyffryn coediog hardd, Betws-y-Coed ywr Porth i Barc Cenedlaethol Eryri. Saif y pentref mewn tirwedd naturiol, eithriadol o ddyffrynnoedd afonydd coediog, mynyddoedd, llynnoedd cudd a rhaeadrau ac yng nghysgod rhai o fynyddoedd uchaf Cymru a Lloegr gan gynnwys yr Wyddfa ei hun. Maer ardal gyfagos yn lle hyfryd i gerdded, lle gallwch ddianc rhag y torfeydd a mwynhau tawelwch a llonyddwch byd natur. Funudau yn unig or pentref tlws hwn gallwch fwynhau taith gerdded braf ar lan yr afon neu ddringor bryniau serth i fwynhau golygfeydd godidog ar draws y mynyddoedd.Mae Betws-y-Coed yn ganolfan wych i ddarganfod atyniadau cyffrous eraill gogledd Cymru; traethau euraidd llydan; 5 castell canoloesol; gwifrau gwib; ogofu tanddaearol a gerddi prydferthmaer cyfan a llawer mwy o fewn cyrraedd mewn 30 munud.Mae Cymdeithas Dwristiaeth Betws-y-Coed yn edrych ymlaen ich croesawu.visitbetwsycoed.co.uk2'