b'Beicio ym Betws-y-Coed ar ardalMae ardal Betws-y-Coed yn lle gwych i grwydro ar gefn feic, ac mae gennym deithiau syn addas i bawb: teithiau hir ac anodd ar y ffordd neu rai yr un mor heriol oddi ar y ffordd. Yng ngogledd Cymru y dechreuodd beicio mynydd untrac ym Mhrydain. Sefydlwyd dau o lwybrau beicio mynydd cyntaf Prydain yng Nghoedwig Gwydir (Llwybr Marin) a Choed y Brenin (Llwybr Red Bull). Bellach mae llwybrau coch Gwydir Mawr a Bach (Llwybr Marin) a llwybrau Penmachno yn denu beicwyr mynydd o bob rhan or byd. Maer ardal yn ganolfan wych ar gyfer reidio llwybrau lawr allt Antur Stiniog. Mae llwybr Hiraethog yn daith drawsgwlad gylchol syn cynnwys Betws-y-Coed, Llyn Brenig a Llyn Alwen, Pentrefoelas ac Ysbty Ifan. Ymhellach i ffwrdd, mae Ln Las Ogwen yn llwybr addas i deuluoedd ar hyd lonydd tawel a hen lwybrau rheilffordd o Lyn Ogwen i Borth Penrhyn ym Mangor. 22'