Read this in English

Mor hawdd ei gyrraedd...

Mewn car. Mae’r pentref wedi ei leoli ym mhen uchaf dyffryn Conwy ger croesffordd yr A470 a’r A5. Mae’r A55 yn mynd heibio gwaelod y dyffryn ger tref Conwy lle gallwch chi droi i’r A470 a chyrraedd Betws-y-Coed drwy yrru i fyny’r dyffryn. Rhwng y tair priffordd mae sawl dewis ar gael i deithwyr o’r de, y dwyrain, y gorllewin a’r gogledd.

Ar y trên. Dewch ar hyd lein Gogledd Cymru I Gyffordd Llandudno ac yna drwy harddwch dyffryn Conwy I Fetws-y-Coed. Neu cymerwch y trên o’r cyfeiriad arall, o Flaenau Ffestiniog. Pan gyrhaeddwch chi Betws fe ddowch o hyd i’ch hun ynghanol y pentref ac o fewn cyrraedd hawdd i holl westai, tai llety a chyfleusterau’r pentref. Byddwn yn eich cynghori chi i drefnu tacsi, serch hynny, os oes gennych chi fagiau trwm.

Ar gwch! Os ydych chi’n teithio o’r Iwerddon, mae cychod yn glanio’n rheolaidd yng Nghaergybi, sydd ond awr o Fetws-y-Coed mewn car.

Mor hawdd teithio’r ardal o’i gwmpas...

Am fentro i’r Wyddfa? Mae bws y Snowdon Sherpa yn mynd yno o Fetws-y-Coed gan gynnig golygfeydd gwych o Barc Cenedlaethol Eryri ar y ffordd. Mae posib yn yr haf gwneud ambell i daith mewn bws agored. Dim ond £1 ydi’r gost i deithio o Fetws i Ben Bwlch Llanberis (Pen-y-Pass), neu mae tocyn diwrnod i’w gael hefyd.

Mae gwasanaethau bws a thrên rheolaidd yn cysylltu Betws efo’r môr a mynyddoedd Meirionnydd. Mewn hanner awr fe allwch chi fod yng Nghonwy neu Landudno, ac ymhen chwarter awr i’r cyfeiriad arall ym Mlaenau Ffestiniog, prifddinas llechi’r byd mewn dyddiau a fu. Yno fe allwch chi ymweld ag ogofau chwarel lechi Llechwedd, cymryd y rheilffordd gul i Borthmadog, sydd yn ei dro’n cysylltu â Rheilffordd yr Ucheldir sy’n mynd â chi’n ddyfnach i Eryri, heibio pentref adnabyddus Beddgelert a hen gartref T. H. Parry-Williams yn Rhyd-ddu, yr holl fordd I Gaernarfon.

Prynwch docyn ‘Explore Wales Pass’ gan Arriva Trains Wales. Gyda’r un tocyn yma fe gewch chi fynediad i bob un gwasanaeth trên prif lein a bron pob gwasanaeth bws. I gael mwy o wybodaeth am y tocyn ffoniwch: 0845 6061 660.

Gwasanaethau bws lleol. Mae bysus I bob pentref a thref yn yr ardal i’w cael o Fetws-y-Coed.

Mewn car. I’r rhai sy’n hoffi chwilio ardal yn eu ceir mae hwn yn lle bendigedig. Mae yma fôr a mynydd, cartrefi enwogion, safleoedd hynafol a siopau mawr a bach i gyd o fewn cylch 30 milltir.

Ar gefn beic. Mae’r ardal yn enwog am ei llwybrau beicio mynydd, ond mae hefyd llwybrau a ffyrdd addas i deuluoedd yn cysylltu rhai pentrefi â’i gilydd. Dewch â beic efo chi ar y trên neu’r bws a beiciwch fel y mynnwch chi i le bynnag sy’n mynd â’ch bryd.

Ar droed. Mae yma gerdded at bob dant a chwaeth a safon, o rodio ling di long ar lan afon neu fentro i ben mynydd. Mae’r cwbl yma o gwmpas Betws-y-Coed.

Cliwich yma am gyfeiriadau we defnyddiol.

View of our photo gallery

  • Sherpa buses - an idea way to get around Sherpa buses - an idea way to get around
  • Betws-y-Coed station Betws-y-Coed station
Sign-up to our newsletter...

Keep up to date with news, events and offers from around Betws-y-Coed.

Printed from www.visitbetwsycoed.co.uk

27/04/2024 03:22:57

/\