Read this in English

Mynd am dro o Fetws-y-Coed...

Mae toreth o lwybrau hardd, rhai’n hir, rhai’n fyr, yn ac o gwmpas Betws-y-Coed. Ar ochrau’r dyffryn ac uwch ei ben mae gwlad eang o fynyddoedd, coedydd, rhosydd a llynnoedd. Mae coedwig Gwydyr yn llawn o lwybrau troed, hen ffyrdd mwynwyr a llwybrau beicio mynydd, sy’n arwain o gwmpas ac at y swynol hyfryd lynnoedd Geirionnydd a Chrafnant, Llyn Parc a Llyn Elsi. Beth am roi cynnig ar y tro hyfryd isod at lannau tawel Llyn Elsi?

Llyn Elsi. Llyn mynydd hyfryd ar y llwyfandir uwchben Betws-y-Coed ac oddeutu awr o dro ar i fyny o’r pentref. Ewch i’r ffordd fach sy’n arwain o gwmpas cefn eglwys y Santes Fair ac yna i fyny’r ffordd goedwigaeth. Dilynwch yr arwyddbyst du a gwyn sydd wedi eu gosod o bryd i’w gilydd ar hyd y ffordd. Mae’r ffordd yn dringo’n serth i gychwyn ond ar i fyny o hyd nes y byddwch chi wrth y llyn. Os trowch chi i’r dde wrth y gofeb fe gewch chi olygfa ragorol o fynyddoedd Eryri. Mae posib cerdded o gwmpas y llyn; wrth wneud cadwch olwg am fywyd gwyllt ac yn ei blith, yn y gwanwyn, gwyddau Canada.

Trofeydd ar hyd yr afon (rhwng 20 munud a 2 awr+)

Mae’r dro ar hyd yr afon o Bont-y-Pair yn hynod ddymunol gyda golygfeydd gwych ar bob cam o’ch taith a all fod mor fyr neu mor hir ag y dymunwch chi. Gan ddechrau o’r bont dilynwch y llwybr pren i’w phen mewn llannerch goediog. Mae hwn yn dro byr, dymunol i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cerdded yn bell, neu sydd â phlentyn mewn coets neu gyfaill mewn cadair olwyn. I’r rhai sydd am fentro ymhellach mae’r llwybr yn mynd ymlaen at lan yr afon ac yna ymlaen drwy ddolydd coediog cyn dringo at Bont y Mwynwyr lle gallwch chi groesi’r afon ac yn ôl ar y pafin sy’n mynd gydag ymyl yr A5. Mae hon yn daith o oddeutu 3 milltir a’r llwybr yn anwastad mewn mannau.

Mae posib mynd ymhellach eto ar hyd yr afon, heibio Pont y Mwynwyr, gan ddilyn y ffens nes bod y llwybr yn dod unwaith eto i ymyl yr afon. Mae’r llwybr wedyn yn dringo drwy’r coed at y ffordd darmac. Ewch ar hyd hon am chwarter I hanner milltir a chymerwch y llwybr troed cyntaf ar y chwith i lawr drwy’r coed. Mi fydd hwn yn eich arwain at yr enwog Raeadr Ewynnol, sy’n arbennig o drawiadol ar ôl glaw trwm. Os daliwch chi i fynd heibio’r rhaeadr fe ddowch chi ymhen ryw chwarter awr at y Tˆ y Hyll a chyfle yno i fwynhau paned a chacen gri gartref. O’r fan hyn mae yna bafin yr holl ffordd yn ôl i Fetws ar hyd ymyl yr A5 os nad oes awydd gennych chi ddychwelyd ar hyd ymyl yr afon. Mae hon yn daith o oddeutu 6 milltir, gyda’r llwybr yn eithaf serth ac anwastad mewn mannau.

Ymlaen i Eryri

Fel Porth Eryri mae Betws-y-Coed yn rhoi mynediad i rai o drofeydd enwocaf a garwaf Prydain. Ond i’r rhai llai mentrus, dydi hi ond yn siwrnai 3 milltir i Gapel Curig a’r hen ffordd coets fawr at lethrau trawiadol Tryfan neu’r hen lwybr ceffyl pwn ar hyd ymyl Llyn Cowlyd i Drefriw. Mae Betws ryw 6 milltir o Dryfan a Chwm Idwal, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSI) ac yn lleoliad y drwg-enwog Lyn Idwal a’r Twll Du. Mae o hefyd ond 6 milltir o Fetws i ben Bwlch Llanberis a’r llwybrau i ben yr Wyddfa, llwybrau’r Mwynwyr a Phen y Gwryd.

Byddwch yn gall - Dydi arwyddbyst Coedwig Gwydir ddim cystal ag y gallen nhw fod.

Gwisgwch ddillad pwrpasol a chall a byddwch yn barod ar gyfer dirywiad sydyn yn y tywydd. Fe ddylai bod gennych chi fap Ordnance Survey 1:25,000 o’r ardal efo chi; mae’r rhain, ynghyd â llyfrynnau canllaw i’w cael yn y Ganolfan Wybodaeth Dwristiaid neu weithiau yn eich llety.

View of our photo gallery

  • Walking in Snowdonia Walking in Snowdonia
  • Family friendly walking Family friendly walking
  • A crisp winter's day A crisp winter's day
  • Sherpa buses - an idea way to get around Sherpa buses - an idea way to get around
  • Fairy Glen, a local beauty spot Fairy Glen, a local beauty spot
Sign-up to our newsletter...

Keep up to date with news, events and offers from around Betws-y-Coed.

Printed from www.visitbetwsycoed.co.uk

25/04/2024 14:50:23

/\