Read this in English
Trefi a Phentrefi Cyfagos...
Trefriw. Yn Nhrefriw fe gewch chi’r felin wlân enwog sy’n cynhyrchu dewis dda o frethyn a thapestri Cymreig. Ers talwm roedd y ffatri’n cynhyrchu ei hynni ei hun o ddŵr y nant sy’n llifo heibio iddi. Yna, uwchben Trefriw mae llynnoedd tlws Crafnant a Geirionydd, testun englyn enwog Ieuan Glan Geirionydd, y bardd y mae ei dy i’w weld o hyd yn y pentref. Ewch yno am dro neu rhowch gynnig ar y gwahanol Lwybrau Trefriw newydd.
Llanrwst. Mae cofnodion ysgrifenedig ynglŷn â Llanrwst sy’n dyddio’n ôl i 954 OC. Yn y Canol Oesoedd roedd y dref yn wladwriaeth annibynnol. Yma mae’r Bont Fawr, pont Inigo Jones, y pensaer a ddyluniodd eglwys San Paul yn Llundain. Yma hefyd mae eglwys Sant Grwst y diweddaraf o’r eglwysi sydd wedi bod ar y safle ers y 6ed ganrif. Yno, yng Nghapel Gwydir, mae gweddillion arch garreg Llywelyn Fawr a halogwyd gan swyddogion Harri’r 8fed. Mae siopau Llanrwst yn fach ac yn annibynnol ac mae yma gaffis yn cynnig arlwy o safon a llwybr troed dymunol ar hyd glannau’r Conwy.
Dolwyddelan. Mae Dolwyddelan yn bentref tawel ym mhen uchaf dyffryn Lledr. Mae castell Dolwyddelan, man geni Llywelyn Fawr, i’w weld yma o hyd ar graig yr ochr uchaf i’r pentref ac yn werth ymweld â hi. Oddi yma fe ellwch chi ymweld â’r Bont Rufeinig, cerdded at neu ddringo Moel Siabod, neu fwynhau’r daith i fyny a thros fwlch y Gorddinan (Bwlch Crimea) i Flaenau Ffestiniog.
Penmachno. Mae pentref Penmachno yn sefyll ym mhen arall dyffryn y Machno uwchben rhaeadr enwog y Graig Lwyd a’i chaffi hynod boblogaidd. I fyny’r cwm o’r pentref mae llwybrau beicio mynydd bydenwog. Yma hefyd mae’r ffordd i’r Wybrnant a Thŷ Mawr, cartref cyfieithydd y Beibl Gymraeg, William Morgan.
Capel Curig. Pentref mewn llecyn gwyllt a hardd ydi Capel Curig. O’i gwmpas mae’r Carneddau a Phen Llithrig y Wrach, Tryfan, Moel Siabod ac ym mhen arall llynnoedd dyffryn Mymbyr mae dysgl Crib Goch, Lliwedd a’r Wyddfa - y mynydd uchaf yng Nghymru. Wrth ymyl y pentref mae’r Llugwy’n byrlymu i lawr at Bont Cyfyng a’i phistyll hardd. Ymhobman mae’r golygfeydd yn drawiadol ac, oherwydd natur y tywydd, yn wahanol bob tro y byddwch chi’n ymweld.
Capel Garmon. Mae Capel Garmon yn bentref bach uwchben Betws-y-Coed sy’n cynnig golygfeydd gwych o ddyffryn Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae o hefyd yn enwog am ei domen gladdu neolithig.
Cliwich yma am gyfeiriadau we defnyddiol.
View of our photo gallery
-
Bodnant Gardens at nearby Tal-y-Cafn
-
Woollen mill at nearby Trefriw
-
Dolwyddelan Castle
-
Nearby Llanrwst