Read this in English

Camau i'r gorffennol...

Ystyr Betws-y-Coed ydi lle gweddi, neu gapel, yn y coed. Mae eglwys San Mihangel wedi bod yma ers y 14eg ganrif a’r coed yw ym mynwent yr eglwys oddeutu 5-600 mlwydd oed. Eglwys San Mihangel oedd prif eglwys y pentref hyd at 1873 pan godwyd eglwys y Santes Fair ar dir yn perthyn i Stad Gwydir er mwyn darparu ar gyfer y twf yn y boblogaeth a ddaeth yn sgil twristiaeth.

Fe gynlluniwyd eglwys y Santes Fair a’r orsaf drenau gan yr un pensaer, Owen Gethin Jones. Ac yn sgil y rheilffordd fe ddaeth Betws-y-Coed, fel nifer o lefydd eraill tebyg, yn gyrchfan i ymwelwyr o’r dinasoedd. Daeth Betws-y-Coed yn gyrchfan poblogaidd i artistiaid ac awduron o Loegr ac yn lleoliad trefedigaeth artistiaid cyntaf Prydain.

Tyfodd y pentref yn ystod oes Fictoria fel cyrchfan i dwristiaid a dyma pryd godwyd y rhan fwyaf o’i gwestai a thai llety. Bryd hynny byddai’r gwestai’n trefnu teithiau mewn cerbydau ceffyl i’w gwesteion. Yn ddiweddarach, yn yr 1930au, roedd perchnogion ffatrïoedd Swydd Gaerhirfryn yn trefnu tripiau diwrnod ar drên i Fetws-y-Coed ar gyfer eu gweithwyr. Agorwyd Sba Trefriw a ddaeth yn atyniad poblogaiddi i ymwelwyr a bu stemars olwyn yn dod â phobl o Gonwy i gei Trefriw hyd at ddechrau’r Ail Ryfel Byd.

Un o atyniadau niferus Betws-y-Coed a’i gyffiniau ydi’r pontydd hardd a hanesyddol sydd i’w cael yma. Pont-y-Pair, a adeiladwyd cyn 1475, ydi’r bont hynaf yn y pentref. Ond mae’r Bont Rufeinig, sydd yn safle treftadaeth dynodedig ger Rhaeadr a chaffi’r Graig Lwyd yn dyddio’n ôl i 200 OC. Fe adeiladwyd Pont Waterloo yn 1815 gan Thomas Telford, ar gyfer yr A5, sef y brif ffordd bost i’r Iwerddon. Mae ffrâm y bont sydd wedi ei addurno â chenhinen, meillionen, ysgallen a rhosyn yn dathlu’r fuddugoliaeth dros Napoleon yn Waterloo. Codwyd y bont grog dros y Conwy ger eglwys San Mihangel yn 1930 yn lle pont a oedd wedi ei osod yno yn 1917 yn lle’r cerrig rhyd sy’n dal i’w gweld o’r cwrs golff. Mae o’n debygol mai ar bont lle mae Pont y Mwynwyr heddiw, ym mhen gogleddol y pentref, y byddai’r Rhufeiniaid yn croesi’r Llugwy. Fe’i defnyddiwyd yn ddiweddarach gan y mwynwyr ar eu ffordd i fwyngloddiau sinc a phlwm Coedwig Gwydyr - roedd llawer iawn o fwyngloddio yn yr ardal yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif. Mae Betws-y-Coed ei hun wedi ei adeiladu bron yn gyfan gwbl o garreg a llechi chwareli Hafod Las a Rhiwddolion. Roedd chwarel Hafod Las ar ochr orllewinol y pentref, a bellach y tu ôl i stad dai Pentre Du. Yn eu dydd fe gynhyrchodd chwareli Betws-y-Coed filoedd o dunelli o lechi a cherrig adeiladu. Fe ddatgomisiynwyd chwarel Hafod Las yn yr 1920au. O gwmpas Llyn Parc yng nghanol Coedwig Gwydyr roedd yna byllau plwm, copr a sinc. O un o’r rhain, pwll Aberllyn, fe gloddiwyd dros 2500 tunnell o fwyn sinc ar ddiwedd y 18fed ganrif. Fe gaeodd Aberllyn yn 1921; bellach mae natur wedi ailfeddiannu’r siafftiau, llwybrau’r dramiau a’r adeiladau.

Mae Coedwig Gwydyr yn dwyn ei henw o’r stad a oedd yn perthyn ers talwm i deulu Wynniaid Castell Gwydir. Fe ddaeth yn Barc Coedwig Cenedlaethol yn 1937, wedi ei blannu â choed conwydd masnachol yn 1921. Un o lawer o’i nodweddion hardd ydi Llyn Elsi, llyn naturiol a ychwanegwyd ati drwy adeiladu argae yn 1908. O Lyn Elsi y bydd Betws-y-Coed yn cael ei ddwˆ r ac mae’r lle’n boblogaidd gyda cherddwyr, beicwyr, gwylwyr adar a thynwyr lluniau.

View of our photo gallery

  • St Mary's Church in the village centre St Mary's Church in the village centre
  • The Miner's Bridge The Miner's Bridge
  • The Sappers Suspension Bridge of 1930 The Sappers Suspension Bridge of 1930
Sign-up to our newsletter...

Keep up to date with news, events and offers from around Betws-y-Coed.

Printed from www.visitbetwsycoed.co.uk

19/10/2019 16:32:53

/\