Read this in English

Rhowch gynnig ar ddilyn ein Llwybr Treftadaeth...

Mae gan Fetws-y-Coed a’r ardal o’i gwmpas hanes hynod a diddorol. Mae Bernard Owen a ddaeth i fyw i Fetws-y-Coed rai blynyddoedd yn ôl, wedi llunio Llwybr Treftadaeth hawdd ei ddilyn mewn car, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae ein taith yn dechrau ym Metws-y-Coed wrth eglwys 14eg ganrif San Mihangel, yr adeilad hynaf sydd yn dal ar ei draed yn y pentref. Cafodd ei hailadeiladu a’i hymestyn yn 1843, ond erbyn yr 1870au a’r twf yn nifer y twristiaid roedd hi unwaith eto’n rhy fach ac fe godwyd eglwys y Santes Fair, adeilad mwy o lawer, yng nghanol y pentref i gymryd ei lle. Un o nodweddion unigryw eglwys San Mihangel ydi’r cerflun clawr arch o Gruffydd ap Dafydd Goch. Mae’r eglwys yn parhau heb drydan ac yn dibynnu hyd heddiw ar ganhwyllau i oleuo ei gwasanaethau.

O’r fan hyn fe awn ni dros linell y rheilffordd i gyfeiriad Pont Waterloo ger cyffordd yr A5 a’r A470. Mae’r bont hon yn un arall o bontydd enwog Thomas Telford. Fe’i codwyd yn 1815 er mwyn mynd â’r A5 ar draws y Conwy i Fetws-y-Coed ac yna ymlaen i Gaergybi.

Awn ni nesaf yn ôl drwy ganol y pentref ac i fyny at Bont-y-Pair, pont a godwyd yn 1468. Erbyn hyn mae hi’n un o nodweddion enwocaf y pentref ac yn lle gwych i wylio dŵr gwyllt tymhestlog y Llugwy, cychwyn ar drofeydd tlws, neidio o graig i graig ac ambell waith yn niwedd yr haf i weld eog yn neidio i fyny’r rhaeadrau.

Awn ni nesaf yn ein car neu fws neu ar ein beic dros Bont-y-Pair a dilyn y B5106 i Gastell Gwydir. Adeiladwyd y plasty arbennig hwn yn 1490 gan, ac ar gyfer, teulu’r Wynniaid. Mae o’n enghraifft ragorol, yn un o’r rhai gorau yng Nghymru, o dŷ cwrt Tuduraidd. Mae sôn bod ysbrydion yno hefyd sy’n ei wneud o felly’n werth ymweliad gan yr hanesydd a selogion y paranormal. Mae adeiladau Capel Gwydir Uchaf yn y coed uwchben y plasty ac wedi eu hadeiladu yn 1622 fel ty agweddi, sef tŷ ar gyfer gweddw’r plas. O’r fan hyn fe allwn ni gerdded drwy goedwig gymysg hynafol i gael golwg ar lawnt fowlio Duduraidd Syr John Wynn o Wydir.

Mae ein taith yn parhau ar hyd y B5106 i Drefriw, pentref a oedd ar un adeg yn borthladd a chyrchfan gwyliau ffyniannus, enwog am ei Sba Rhufeinig a’i Melin Wlan. Mae’r felin yn dal ar waith, er nad ydi hi’n cael ei gweithio bellach gan ddŵr, ac yn cynhyrchu brethyn a thapestri Cymreig osafon. Mae cyfle fan hyn i gael paned yng Nghaffi’r Felin cyn symud ymlaen i Sba Trefriw. Wedi ei sefydlu gan y Rhufeiniaid fe ailddatblygwyd y sba yn Oes Fictoria. Byddai’r ymwelwyr yn dod i fyny’r afon o Gonwy ac yn glanio yn Nhrefriw cyn cerdded draw i’r sba i ‘gymryd y dŵr’ mwynol oedd i fod yn llesol i’r iechyd.

Yn ôl â ni ran ar hyd y B1506 i Lanrwst. Yn union cyn gyrru i mewn i’r dref rydyn ni’n croesi Pont Fawr, a godwyd yn 1636 ac a ddyluniwyd gan Inigo Jones, y pensaer a gynlluniodd eglwys San Paul yn Llundain. Fe gawn ni gyfle hefyd i ymweld ag eglwys Sant Grwst y Sant Cymreig o’r 6ed ganrif. Ar ochr yr eglwys mae Capel Gwydir a adeiladwyd yn 1633 ac sydd bellach yn gartref i weddillion arch garreg Llywelyn Fawr, tywysog Cymru, a fu farw yn 1240 wedi teyrnasiad o 40 mlynedd ar ei wlad.

Yn ôl i gyfeiriad Betws-y-Coed ond y tro hwn ar hyd yr A470. Ar yr ochr chwith mae yna droad i Gapel Garmon. Yno mae yna safle archeolegol pwysig iawn sef Man Claddu Neolithig a adeiladwyd 3,000 o flynyddoedd cyn Crist. Yma fe gewch chi hefyd olygfeydd gwych o’r Carneddau ac os ydych chi’n ymweld tua chanol mis Mai, gwrandewch am y gwcw sydd i fod yn canu yma bob blwyddyn.

Yn ôl ran i ffordd Betws a’r A5, a dilyn hwnnw nes ein bod ni’n cyrraedd Caffi’r Graig Lwyd, adeilad a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis y pensaer a greodd Portmeirion. Fe drown ni i’r dde wrth y caffi a gyrru i bentref Penmachno.

Yn y goedwig, rhwng Penmachno a Betws-y-Coed fe ddowch chi ar draws Ty Mawr Wybrnant, tŷ a adeiladwyd yn yr 16eg ganrif a man geni a magu William Morgan, y gwˆ r a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg. Mae yno arddangosfa o Feiblau hen o dros y byd ac o wybodaeth am fywyd cefn gwlad Cymru yn yr 16eg a’r 17eg ganrif.

Yn ôl â ni i’r A5 i gyfeiriad Betws-y-Coed, ond ganllath cyn pont Waterloo rydym ni’n troi i’r chwith i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog. Rai milltiroedd i fyny dyffryn hardd y Lledr rydyn ni’n cyrraedd pentref Dolwyddelan.

Awn ni drwy’r pentref ac at Gastell Dolwyddelan, man geni Llywelyn Fawr. Adeiladwyd y castell gan Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn, ac fe estynnwyd yn ddiweddarach gan Lywelyn ap Gruffudd, sef Llywelyn Ein Llyw Olaf. Roedd yn lle pwysig i’r ddau Lywelyn, o ran gweinyddiad ac economi Gwynedd, ac am resymau eraill mwy personol!

Yn ôl â ni unwaith eto i Betws ond y tro yma awn ni drwy’r pentref ar hyd yr A5 ac i gyfeiriad Bangor a Chaergybi. Ychydig y tu allan i Fetws-y-Coed rydym ni’n mynd heibio’r Rhaeadr Ewynnol, un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Ychydig ymhellach ar hyd yr A5 rydym ni’n cyrraedd y Tŷ Hyll. Mae sawl hanes i’r t ˆy, yn cynnwys un sy’n dweud mai tˆy unnos oedd o’n wreiddiol. Erbyn hyn mae o’n perthyn i Gymdeithas Eryri sy’n ei ddefnyddio fel caffi a chanolfan gwenyna. A dyna esgus perffaith i gael paned arall a thamaid o bara brith cartref.

Ymlaen wedyn i bentref Capel Curig. Hwn, o bryd i’w gilydd, ydi pentref gwlypaf Cymru. Ond mae’r tywydd cyfnewidiol yn sicrhau bod y golygfeydd a gewch chi yma’n wahanol bob tro y dewch chi yma. Mae Capel Curig yn adnabyddus hefyd fel canolfan a man cychwyn gweithgareddau awyr agored o bob math. Galwch heibio eglwys Sant Julitta, y lleiaf o hen eglwysi Eryri. Fe’i hadeiladwyd yma ar lan y Llugwy rhwng Moel Siabod a’r Glyderau o gwmpas troad yr 16eg ganrif. Erbyn hyn mae hi’n cael ei defnyddio’n bennaf ar gyfer arddangosfeydd - os ydi hi ar glo, mae goriad i’w gael yng nghaffi’r Pinnacles.

I orffen y daith awn ni’n ôl i Fetws-y-Coed am bryd a sgwrs iawn am ein diwrnod yn un o’r nifer fawr o dafarnau, bistros neu fwytai sydd i’w cael yma. Mwynhewch!

(Mae’r llwybr treftadaeth wedi ei gynllunio ar sail mapiau OS yr ardal a’r llyfrynnau a’r taflenni gwybodaeth sydd i’w cael yn eich llety neu o Ganolfan Gwybodaeth Dwristiaid Betws-y-Coed.)

NODYN PELLACH – Mae arddangosfa Tywysogion Gwynedd i’w weld rŵan yng Nghanolfannau Gwybodaeth Dwristiaid Betws-y-Coed, Conwy a Chaernarfon.

Cliwich yma am gyfeiriadau we defnyddiol.

View of our photo gallery

  • Gwydir Castle Gwydir Castle
  • Ty Hyll (Ugly House) Ty Hyll (Ugly House)
  • Bridge crossing the Afon Machno Bridge crossing the Afon Machno
Sign-up to our newsletter...

Keep up to date with news, events and offers from around Betws-y-Coed.

Printed from www.visitbetwsycoed.co.uk

07/12/2024 09:05:43

/\