Read this in English

Bwyta, yfed...

Mae Cymru’n datblygu’n sydyn iawn i fod yn gyrchfan o ragoriaeth ar gyfer bwyd. Mae ystod eang a safon uchel bwydydd a diodydd Cymru, a’r ffaith ei fod yn gynnyrch lleol, I gyd yn cyfrannu at y mwynhad sydd i’w gael o’i brofi.

Yma ym Metws-y-Coed a’r ardaloedd cyfagos mae dewis eang o lefydd i gael bwyd a diod a rhywbeth at ddant pawb ar bob adeg o’r dydd. Mae digonedd o ddewis o fwyd, i’w fwyta yma neu i’w brynu a’i gymryd adref fel anrheg i chi’ch hun neu rywun arall, er enghraifft: cregyn gleision o Gonwy, iogwrt Llaeth y Llan, halen Môn, cwrw Llanrwst a phasteiod a chig lleol gan gigyddion enwog Trefriw a Llanrwst. Mae’n destun balchder i ni ein bod ni’n gallu cynnig cymaint o gynnyrch lleol yn ein llefydd bwyta ac rydyn ni’n sicr y bydd o wrth eich bodd!

Os ydych chi’n chwilio am becyn bwyd ar gyfer diwrnod o gerdded mynydd neu o feicio, mae yna sawl lle ym Metws i chi gael un. Os, wrth fwynhau’r ardal y bydd gennych chi awydd paned neu bryd, mae yna gaffis yn Llanrwst, Trefriw, Betws-y-Coed a hyd yn oed wrth droed yr Wyddfa. Fe welwch chi fod pob un fwydlen yn cynnwys cawl cartref, brechdanau newydd eu paratoi a chacenni cartref. Beth am fygiaid o siocled poeth a thamaid o fara brith cynnes?

I brynu cynnyrch lleol gan bobl leol, beth am fynd i farchnad Llanrwst. Mae marchnad yno ar y Sgwâr bob dydd Mawrth a marchnad cynnyrch fferm unwaith y mis ar y trydydd dydd Sadwrn yng nghanolfan Glasdir rhwng 9 y bore a 2 y prynhawn.

Mae popeth yma i’r un sy’n mwynhau ei fwyd a hynny bob dydd o’r wythnos – o fwyd tafarn, caffi neu bysgod a sglods da i brydau mewn bwytai a gafodd eu gwobrwyo oherwydd safon eu bwyd.

View of our photo gallery

  • Welsh Cakes and Bara Brith Welsh Cakes and Bara Brith
  • Tea by the river Tea by the river
Sign-up to our newsletter...

Keep up to date with news, events and offers from around Betws-y-Coed.

Printed from www.visitbetwsycoed.co.uk

25/04/2024 03:24:29

/\