Read this in English
Betws-y-Coed; rhywbeth i bawb...
Waeth beth ydi’r tywydd, mae pob amser digon i’w wneud ym Metws-y-Coed. A dyma awgrym neu ddau i chi ynglyˆ n â sut I wneud y gorau o’ch ymweliad, i greu atgofion a fydd yn eich hudo chi I ddod yn ôl dro ar ôl tro.
Ydych chi’n un sy’n mwynhau harddwch a golygfeydd mynydd ac afon? Ewch am dro ar hyd y llwybr sy’n arwain drwy goedwig Gwydyr o Bont-y-Pair. Neu beth am fentro I fyny at y Rhaeadr Ewynnol, neu at y golygfeydd hyfryd sydd i’w cael o’r llwybr serth o gefn eglwys y Santes Fair i fyny at Lyn Elsi. Bydd ambell un ohonoch chi efallai’n mwynhau crwydro’n hamddenol o gwmpas y cwrs golf. A rhai eraill am fentro i fyny’r dyffryn at Ffos Anoddyn, y mynediad Celtaidd i Annwfn, gwlad y meirw.
Efallai mai ymlacio ar lan afon sy’n cymryd eich bryd a’r awydd ar ddiwrnod braf i drochi’ch traed am bwl. Neu dynnu llun o’r Llugwy’n ffrydio’n wyn ac yn wyllt drwy fwâu carreg Pont-y-Pair wedi ei llenwi gan y glaw.
Os oes angen dillad arnoch chi i gerdded, I fynydda neu dim mwy na bod allan mae yma ddewis eang ar eich cyfer mewn saith - ar y cyfrif diwethaf - o siopau awyr agored. Ac mae yma ddigonedd o siopau hefyd yn gwerthu crefftau a bwydydd Cymreig lleol.
Beth am brynu brechdan neu ddau fel picnic i’w fwyta ar Gae Llan, y cae eang yng nghanol y pentref? Neu os am fwyta dan do, mae yna bob math o gaffi’n cynnig paned a phrydau bach. Neu os oes gennych chi awydd peint o gwrw neu wydryn o win, neu bryd da a moethus, beth am fynd i un o’r nifer fawr o dafarnau, bistros a bwytai sydd yn y pentref? Mae’r dewis gennych chi - eistedd allan i wylio’r byd yn chwyrlïo heibio, neu ddiogi yng ngwres tân goed ar ôl diwrnod caled ar y mynydd. Ac mae yma gerddoriaeth hefyd o berfformiadau byw yn y tafarn i ganu Côr Meibion yn eglwys y Santes Fair.
Ar gyfer y plant mae yma drên bach y tu ôl i orsaf Betws-y-Coed a’r amgueddfa drenau. Ac yn ymyl hwnnw mae yna barlwr hufen ia - i blant bach a mawr! Mae croeso hefyd I blant yn y rhan fwyaf o’r tafarnau, yn arbennig os ydyn nhw’n cael bwyd. Mae’r rhan fwyaf o fariau a thafarndai’r pentref yn cynnig bwydlen resymol ei bris ar gyfer plant.
Pan fyddwch chi’n dod I Fetws-y-Coed does dim angen i chi adael y ci yn y tyˆ. Dewch â fo efo chi, mae llawer o’r siopau ac ambell dafarn hefyd yn gwneud pwynt o fod yn gi-gyfeillgar. Ac mae llwybrau drwy’r coed yma sy’n llefydd rhagorol i fynd â chi am dro ar dennyn.
Am fwy o wybodaeth i ysbrydoli eich hoe neu eich gwyliau ym Metws-y-Coed, cysylltwch â, neu ewch i, y Ganolfan Wybodaeth sydd i’w gael yn yr adeiladau wrth yr afon ym mhen pellaf Cae Llan.
View of our photo gallery
-
The Pont-y-Pair bridge
-
Betws-y-Coed village centre
-
Siabod from Betws-y-Coed
-
Betws-y-Coed station
-
Coach Friendly Status