Read this in English

Croeso Cynnes Drwy’r Flwyddyn...

Croeso i chi gyd i Fetws-y-Coed, porth Eryri a man cychwyn delfrydol ar gyfer teithiau i bentrefi a threfi’r ardal o’i gwmpas. Dyma berl o ardal, yn ddisglair o lynnoedd cudd, rhaeadrau tymhestlog, pontydd hanesyddol a glannau afon tangnefeddus. Mae yma, yng nghanol hudoliaeth Coedwig Gwydyr, naws sy’n o’r un rhin â’r Alpau. Mae o’n lle hawdd ei gyrraedd, yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau i bob un o atyniadau Gogledd Cymru, ac mae dewis o lety yma sy’n cynnig rhywbeth at bob dant. Mae bwyd ymysg y gorau’n unman i’w gael yn ei gaffis, bistros, bwytai a thafarndai a’u bwydlenni’n llawn o gynnyrch lleol, hwnnw’n aml yn gynnyrch wedi ei wobrwyo. Ewch am dro drwy ein siopau bach annibynnol, porwch drwy eu stoc o grefftau, dillad, swfenîrs, nwyddau lleol a chynnyrch cartref. Mae yma doreth o siopau cyfarpar a dillad awyr agored. Ynghyd ag orielau celf rhagorol. Anadlwch yr awyr iach; cerddwch, beiciwch, manteisiwch ar y llu o weithgareddau hamdden ac antur sydd i’w cael yma. Ymgollwch yn niwylliant a hanes gyfoethog yr ardal. Beth bynnag y bydd arnoch chi awydd ei wneud ym Metws-y-Coed neu’r ardaloedd cyfagos, rydyn ni am eich ysbrydoli chi a’ch arfogi â’r wybodaeth a fydd yn eich galluogi i brofi’r gorau o’r hyn y mae’r ardal hynod hon yn ei gynnig.

Conwy County Borough Council Conwy Rural Partnership
EU Leader Welsh Government

View of our photo gallery

  • 2024 Easter Egg Hunt 2024 Easter Egg Hunt
Sign-up to our newsletter...

Keep up to date with news, events and offers from around Betws-y-Coed.

Printed from www.visitbetwsycoed.co.uk

19/04/2024 17:13:34

/\