Read this in English
Nefoedd i feicwyr mynydd...
Mae beicio mynydd a beicio’n gyffredinol yn dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd. Mae Betws-y-Coed a’r cyffiniau’n enwog drwy’r byd am ei llwybrau beicio mynydd, rhai wedi eu paratoi’n benodol i herio’r mwy mentrus a rhai sy’n addas I deuluoedd ffit!
Un o’r llwybrau mwyaf adnabyddus ydi llwybr y Marin, sef oddeutu 25km o her a hwyl drwy goedydd a golygfeydd ac yn cymryd rhwng 2 a 4 awr i’w chwblhau. Mae dechrau a diwedd y llwybr yn ymyl Castell Gwydir, ger Llanrwst, ond mae modd mynd iddo o ochr Betws-y-Coed hefyd.
Yr ochr arall i Fetws-y-Coed mae Penmachno a’i llwybrau beicio mynydd hithau. Mae dewis o ddau gylch yno gyda 30km o lwybrau’n cynnwys darnau hir o lwybr untrac, pontydd pren, creigiau, a golygfeydd gwych. Bydd angen 3 i 5 awr i wneud y cwbl! I gyrraedd yno ewch drwy bentref Penmachno ac ymlaen nes y gwelwch chi’r maes parcio ar y dde, yn rhan isaf ffordd goedwig sy’n arwain i fyny i’r mynydd.
Mae mynd ar y llwybrau beicio mynydd yn rhad ac am ddim, ac mae eu cynnal a’u cadw’n dibynnu ar waith gwirfoddol a rhoddion. Mae bocsys rhoddion i’w cael yn y meysydd parcio, felly rhoddwch yn hael i gefnogi’r criw sy’n gweithio mor galed i gynnal y llwybrau.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy eithafol dydi Antur Stiniog, ychydig dros chwarter awr i ffwrdd ym Mlaenau Ffestiniog, yn cynnig llwybrau rasio ar i waered a reidio rhydd sydd ymhlith y mwyaf heriol ym Mhrydain. Mae yna lifft, wrth gwrs, i ben y mynydd – un cyflym. Ond lle i bobl cymwys ydi o ac mi fyddwn ni’n argymell i chi bwcio o flaen llaw.
Ac os nad ydi hynny i gyd yn ddigon, dydi Coed y Brenin ond hanner awr i ffwrdd. Coed y Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd cyntaf i’w greu mewn coedwig ac mae o wedi ei ddatblygu’n gyson ers y dechrau. Mae llwybrau yma sy’n addas i feicwyr mynydd o’r dechreuwr i’r athrylith. Mae’r golygfeydd yn drawiadol a darpariaeth y ganolfan yn ddi-ail, o gyfleusterau golchi beic i gaffi braf.
View of our photo gallery
-
Mountain biking in Snowdonia
-
Penmachno forest trails
-
Mountain biking in the Gwydir forest