Read this in English
Paradwys i'r Ymwelydd Anturus...
Mae’r ardal o gwmpas Betws-y-Coed yn raddol cael ei droi’n un o’r llefydd chwarae awyr agored mwyaf amrywiol, hawdd ei gyrchu a chryno ym Mhrydain. Mae hyn, o’i gyplysu â’r cyfoeth o fynyddoedd, afonydd, llynnoedd, coedydd a’r môr yn gwneud yr ardal, o’i roi yn syml, yn Ardal Antur Amheuthun.
Mae’r dewis o gampau antur ac awyr agored yn yr ardal yn anferth ac yn cynyddu o flwyddyn I flwyddyn wrth I wahanol bobl weld a dyfeisio ffyrdd newydd o fwynhau’r amgylchedd. Ac o Fetws-y- Coed mae hi’n bosibl ar yr un diwrnod dringo mynydd a hwylfyrddio ar y môr.
Felly, beth hoffech chi ei wneud heddiw? Rhoi cynnig ar geunenta? Cwrs canwˆ io? Neu beth am greiga ar lan y môr neu nofio mewn llyn mynydd? Beth am swingio drwy’r coed a disgyn yn ddiogel. Neu abseilio, hedfan ar sip-raff neu ddringo pistyll mewn hen chwarel lechi. Mae yna gwmnïau dringo abseilio a bowldro yma hefyd.
Beth am roi cynnig ar rai o’r anturiaethau mwyaf o’u bath sydd ar gael - llithro drwy’r awyr ar sip-raff hiraf a chyflymaf Ewrop, cerdded i ben mynydd uchaf Cymru, abseilio i’r lle tanddaearol dyfnaf ym Mhrydain?
Pa bynnag antur y byddwch chi’n ei ddewis, mi fyddwch yn cael eich arwain gan rai o’r bobl fwyaf cymwys a phrofiadol yn y maes awyr agored ym Mhrydain, pobl a fydd yn gallu eich cyflwyno’n hollol ddiogel I ryfeddodau tirlun Gogledd Cymru.
View of our photo gallery
-
Winter walking in Snowdonia
-
Tree Top high ropes course
-
Canoeing and kayaking in Snowdonia
-
Go Below caving trips