Read this in English

Gweithgareddau a Hamdden...

Mae pob math o ffyrdd i fwynhau Betws-y-Coed a’r ardal o’i gwmpas. Fe ellwch chi bysgota’r eog a’r gwyniad sy’n nofio I fyny’r Conwy a’r Llugwy, neu’r brithyll sy’n cael eu gosod yn nhri o lynnoedd yr ardal. Bydd angen trwydded wrth gwrs, ac mae’r rheiny i’w cael drwy’r wefan www.betws-y-coedanglers.org.

Beth am wylio adar yng ngwarchodfa RSPB Conwy neu weilch Prosiect Gweilch y Môr Glaslyn?

Mae yna farchogaeth I ddechreuwyr ym Mhenmachno ynghyd â theithiau trwy’r coed i rai mwy profiadol.

Mae yna gwrs golff hefyd wrth yr afon ym Metws-y-Coed a hwnnw’n cynnig aelodaeth pob yn ddiwrnod i ymwelwyr.

Fe allwch chi gerdded drwy 7,250 hectar Coedwig Gwydyr, gwylio’r bywyd gwyllt yno neu ymollwng i’r llonyddwch.

I’r rhai sy’n hoffi gerddi mae Tŷ Hyll, sy’n enwog am ei chlychau gog a’i gardd flodau gwyllt. Neu beth am ymweld â Gerddi Bodnant. Mae’r ddau le o fewn ychydig filltiroedd i Fetws-y-Coed.

Mae cyrsiau lleol i arlunwyr a Gŵyl Gelfyddydau Eryri bob mis Mehefin sy’n arddangos gweithiau celf a hefyd yn cynnig gweithdai celf.

Mae trysorau o bob math i’w darganfod gan selogion geocaching yn y coed, glannau afon, mynyddoedd a llefydd gwyllt sydd o gwmpas Betws-y-Coed.

Os am gael ychydig o foethau beth am dalu ymweliad â gwesty’r Waterloo lle gewch chi massage, trin eich gwallt a thriniaethau harddwch a hefyd pwll nofio, jacuzzi, ystafell stêm, sauna a champfa bwysau. Mae yna hefyd pwll nofio cyhoeddus a chanolfan hamdden milltir neu ddwy i ffwrdd yn Llanrwst.

Mae digwyddiadau Cymraeg o bob math i’w cael yn yr ardal – cadwch olwg ar yr hysbysfyrddau - neu i lawr y dyffryn fe gewch chi sioeau yn Venue Cymru, Llandudno, a ffilmiau Cineworld yng Nghyffordd Llandudno.

Cliwich yma am gyfeiriadau we defnyddiol.

View of our photo gallery

  • Fishing the Afon Conwy Fishing the Afon Conwy
  • Picnic by Llyn Geirionydd Picnic by Llyn Geirionydd
  • Bodnant Gardens at nearby Tal-y-Cafn Bodnant Gardens at nearby Tal-y-Cafn
  • Welsh Highland Railway Welsh Highland Railway
Sign-up to our newsletter...

Keep up to date with news, events and offers from around Betws-y-Coed.

Printed from www.visitbetwsycoed.co.uk

24/04/2024 04:28:07

/\